Tref farchnad Trefynwy, a saif ar ffin de Cymru, ar lannau afon Gwy.

Mae gan y dref gysylltiadau hanesyddol â’r cyfnod Rhufeinig cynnar a’r oesoedd canol, a’i meibion enwocaf yw Harri V a Charles Rolls, o gwmni Rolls-Royce. Mae gan Drefynwy boblogaeth o 10,000 ar hyn o bryd ac o’r dref mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd, Bryste a Chanolbarth Lloegr ar hyd traffyrdd. 

Ar y wefan hon ceir Agendau a Chofnodion cyfredol Cyngor y Dref, hanes manwl, gwybodaeth am glybiau a sefydliadau lleol, a thudalen cysylltiadau er hwylustod i chi. Mae’r Maer a Chynghorwyr y Dref yn eich gwahodd i ddysgu mwy am eu tref ac yn gobeithio y byddwch yn ymweld â Threfynwy yn y dyfodol agos.
 


Mae Trefynwy’n hawdd ei chyrraedd ar hyd y ffordd o’r gogledd, y dwyrain, y de a’r gorllewin.


O’r M4
Gadewch y draffordd ar Gyffordd 24 (cylchfan Coldra). Dilynwch yr A449/A40 i Drefynwy. Cymerwch yr allanfa gyntaf i Drefynwy (B4233). Ewch ymlaen i’r goleuadau traffig a throwch i’r dde (B4293) dros y bont. Cymerwch yr allanfa gyntaf ar y fân gylchfan. Bydd hyn yn dod â chi i waelod Stryd Mynwy (prif stryd fawr Trefynwy).

O Flaenau’r Cymoedd a’r Fenni
Ewch ar yr A40 i Raglan. Cadwch i’r fforch ar y chwith ac ewch ymlaen ar yr  A40/A449 (arwyddion i Ganolbarth Lloegr) i Drefynwy.

Dyffryn Gwy (o’r gorllewin)
I ddilyn llwybr â mwy o olygfeydd trwy ddyffryn hardd afon Gwy, gadewch yr M4 ar Gyffordd 21 a dilynwch yr M48 dros hen bont Hafren. Gadewch y draffordd ar Gyffordd 2 (arwyddion i Gas-gwent) a dilynwch yr A466 i Drefynwy.

O’r M5 (Canolbarth Lloegr)
Gadewch y draffordd ar Gyffordd 8 (arwyddion i Dde Cymru, Rhosan-ar-Wy / Ross on Wye). Dilynwch yr M50 ac yna’r A40/A449 i Drefynwy. Ar gylchfan Dixton cymerwch y 3edd allanfa i Drefynwy (A466). Bydd hyn yn dod â chi i Stryd y Priordy ar ben y dref.